"In your hands, the birth of a new day... " (Limahl)

24 October 2011

Ar Daith / On Tour: 1995

1995 - GIGS

05/01/95 Capel y Gerlan, Y Borth

13/05/95 Undeb Myfyrwyr, Prifysgol Stirling

12/07/05 Y Neuadd Gymuned, Y Borth

26-31/07/95 Lorient, Llydaw (Y Gyngres Geltaidd)

11/08/95 Plas Kinmel, Abergele (Cyn cyngerdd Dafydd Iwan a’r Band)

12/08/95 Gwesty’r Marine, Aberystwyth

19-20/08/95 Gwyl Fictorianaidd, Llandrindod

15/09/95 Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth

09/95 Prifysgol Aberystwyth

08/11/95 Gwesty’r Charing Cross Tower, Glasgow

26/12/95 Gwesty’r Marine, Aberystwyth

Digwyddodd tri beth o ddiddordeb yn gigs eleni. Yn gyntaf, colli tiwnar fy nhelyn rhywle ym Undeb Myfyrwyr Prifysgol Stirling (13/05/95). Byth oddi ar hynny, rwyf wedi defnyddio un o'r rhain i diwnio fy nhelyn. Yr ail peth oedd cael caniatad gan fy hen arwr Dafydd Iwan i ganu'r delyn cyn ei gig yn wythnos yr Eisteddfod Abergele! Dyna hefyd oedd yr unig tro i mi ffawdheglu rhwng dau gig - o Abergele i Borthmadog, wedyn bws lawr i Fachynlleth a lifft o fan 'ni gan fy nhad yng nghyfraith. Y trydydd peth, ym mis Tachwedd, oedd cael gwahoddiad gan griw o ddynion busnes o Ynysoedd Aland i chwarae mewn noswaith i hybu masnach y wlad honno. Fy nau prif atgof yw "Svartbrod" (ryw fath o bara brith)...a chwrw!

Three things of note happened in this year's gigs. First, I lost my tuning key somewhere in Stirling Students Union. Ever since then, I have used one of these to tune my harp. The second thing was being allowed by my old hero, Dafydd Iwan, to play the harp at the before his gig in the National Eisteddfod week. This was also the only time I have hitch-hiked between gigs, from Abergele to Porthmadog and then a bus down toMachynlleth and a lift from there to Aberystwyth with my father-in-law. The third event, in November, was being invited to perform in a promotional night for the Aland Islands, in Glasgow. My two abiding memories of this night were "Svartbrod" (not dissimilar to bara brith), and...beer!