"In your hands, the birth of a new day... " (Limahl)

5 October 2011

Ar Daith / On Tour: 1993


1993 - GIGS

18/02/93 Y Neuadd Goffa, Y Borth

01/03/93 Y Ganolfan Wybodaeth, Cwmrheidol

06/93 Y Llew Du, Aberystwyth

27/07/93 Ysgol Dalneigh, Inverness

29/07/93 Neuadd y Dref, Dingwall

30/07/93 Theatr Eden Court, Inverness

08/09/93 SESIWN FYW: RADIO CEREDIGION

29/09/93 Caplandy / Chaplaincy, Prifysgol Strathclyde


Bilingual post - please scroll down

Er mae ychydig o gigs a gefais ym 1993, roedd y cyngherddau yn rhai difyr dros ben. Uchafbwynt y flwyddyn oedd cael fy narganfod yn bysgio ar y stryd yn Aberystwyth, a chael gwahoddiad yn y fan a'r lle i gynrychioli Cymru fel cerddor yn y Gyngres Geltaidd oedd yn cael ei gynnal y flwyddyn honno yn Inverness. Yn anffodus, dysgais gwersi chwerw yn y cyngerdd yn Dingwall ar 29/07/93. Fy cyngerdd mwyaf gogleddol hyd yma, ac ymhlith y gwaethaf. Anghofiais yr allwedd i cas caled fy nhelyn yn fy ngwesty yn Inverness. Er gwaethaf ymdrechion gan gerddorion a chyfeillion eraill (gan gynnwys un Aelod Cynulliad presennol!) i dorri'r clo, bu'n rhaid mentro i'r llwyfan gyda'm gitar yn unig. Ar y llwyfan, torodd un o'm tannau gitar. Bu'n rhaid i mi meddwl ar fy nhraed - penderfynais gorffen fy set yn fyr trwy canu'r emyn "Dros Gymru'n Gwlad" yn ddigyfeiliant. Cefais ganmoliaeth caredig iawn gan y cynulleidfa, ond roeddwn wedi torri 'nghalon ar y pryd! Diolch byth, cafwyd cyngerdd cofiadwy yn Theatr yr Eden Court, Inverness y noson ganlynol, a "sesh" a barodd dros nos mewn gwesty cyfagos, yng nghwmni cerddorion yr wyl, gan gynnwys y telynor dawnus a hoffus o'r Iwerddon, Cormac de Barra, a oedd wedi perfformio deuawd gyda fi yn y cyngerdd. Ym 1993 hefyd ces fy sesiwn Radio cyntaf yn fyw (Radio Ceredigion), unwaith eto ar ol cael fy ngweld ar y stryd gyda'r gitar ar dop dref Aberystwyth. Wedyn symud i'r Alban ym Mis Medi ar gyfer bywyd newydd ym Mhrifysgol Strathclyde. Digwydd cael fy 'ngig' cyntaf fel myfyriwr, yng Nghaplandy Cristnogol y Brifysgol.

I only had a few gigs in 1993, but the few that did occur happened to be very memorable ones. I was discovered busking in Aberystwyth during Summer 1993, and signed up on the spot to represent Wales as a performer at the Celtic Congress, which was being held at Inverness that year. Unfortunately, I learned some harsh lessons as a performer at the gig in Dingwall on 29/07/93. This was my most northerly gig to date, and remains one of my worst ever. I had forgotten the key to my hard harp case back in my hotel. Despite the efforts of my fellow musicians and friends (including one current National Assembly Member!) to break the lock, I was forced to go on stage armed just with my guitar. Unfortunately, during my first song, a string snapped. Thinking on my feet, I ended my set prematurely with an unaccompanied version of the hymn "Dros Gymru'n Gwlad" (to the tune of Sibelius' Finlandia). I received generous applause but I was heartbroken! Thankfully, the following nights' gig at the Eden Court Theatre proved to be much more successful. I performed a duet (Pant Corlan yr Wyn, if my recollection is correct) with the prominent and likeable Irish harpist, Cormac de Barra. It was also in 1993 that I was given my first radio session, again after being plucked off the street corner at the "top of town" in Aberystwyth. In September, I started a new life as a student at Strathclyde University. My first gig in this new phase happened to be at the Christian Chaplaincy at the Stundents Union.